Fel
Cymro balch rwy'n teimlo'n aml y dylwn i ysgrifennu llawer mwy yn fy iaith
frodorol. Mae'n iaith gyntaf i mi, yr un rwy'n ei defnyddio drwy'r dydd, bob
dydd, ac eto rwy'n ysgrifennu rhan mwyaf o bethau yn Saesneg. Does dim esgus
mewn gwirionedd, heblaw am ddweud, doeddwn i wirioneddol ddim yn cymryd fawr o
sylw o fy ngwersi Cymraeg yn yr ysgol gan fy mod yn siared yr iaith yn rhugl,
yr un fath â phawb arall oni'n adnabod.
Gyda
hyn mewn golwg, rwy'n rhoi cynnig, am y tro cyntaf, ar fersiwn Gymraeg o gofnod
blog a, cyn belled a fod o'n ddarllenadwy, mi fydda i'n gwneud fy ngorau i
cario ymlaen gyda fersiwn Cymraeg a Saesneg o flogiau'r dyfodol. Peidiwch â bod
yn rhy feirniadol gyda fy ymgais gyntaf.....
Ar
ôl cyhoeddi cofnod blog dim ond pedwar diwrnod yn ôl, ydw i yn sefyllfa
anghyffredin iawn o fod yn ôl y tu ôl i'm desg ac o flaen y gliniadur, ac yn
rhoi cynnig arall ar rannu sylwadau gyda themau i ymwneud a'r Cofis, a rhoi
diweddariad cyflym i unrhyw rai sydd â diddordeb.
Gorffennais
y cofnod olaf drwy nodi nad oedd y tîm wedi gwneud yn rhy ddrwg hyd yn hyn am
dîm pêl-hir oedd yn saff o fynd lawr i'r ail gynghrair ar ôl tymor yn yr Uwch
Cynghrair ac, er gwaethaf y golled siomedig a gafwyd i'r Drenewydd, nid oes dim
wedi newid.
Mewn
gwirionedd, nid yw perfformiad y tîm yn erbyn y 'Robins' ond yn atgyfnerthu'r
hyn yr wyf i, a'r rhan fwyaf o gefnogwyr y clwb, wedi bod yn ei ddweud drwy'r
tymor: Rydym mewn safle gwych yn y Gynghrair ond, yn seiliedig ar ein
perfformiadau, mae'n bosibl y dylem fod yn herio Cei Connah, Y Barri a'r
Seintiau Newydd am y teitl.
Nic Bould |
Ella
bod hwn yn ddatganiad braidd yn feiddgar o ystyried ein bod dim ond ychydig dros
hanner ffordd drwy ein tymor cyntaf yn ôl yn uwch gynghrair Cymru, ond byddwn
yn herio unrhyw un sy'n amau fy marn ar hyn i wrthbrofi nad ydym yn haeddu
dipyn mwy o bwyntiau ar y Bwrdd nag sydd gennym ar hyn o bryd.
Y
gem ym Mharc Latham yw'r enghraifft ddiweddaraf lle oedd perfformiad y tîm yn
haeddu mwy na'r canlyniad. I ddweud y gwir, roedd yn fy atgoffa o'n gêm yn yr
un stadiwm ym mis Awst pan gollodd y Cofis er i ni reoli cyfnodau hir o'r gêm a
chreu'r rhan fwyaf o'r cyfleoedd i sgorio. Ar ôl dweud hyn, mae'r Drenewydd yn
dîm da ac mae ganddynt y profiad i fynd drwy gyfnodau anodd mewn gemau ac
ennill ar y diwedd, yn enwedig ar gae eu hunain.
Roedd
y gêm ei hun yn gracar ac, ar ôl yr ugain munud gyntaf roedd yn anodd i fi
gredu bod Dre ddim ar ar y blaen. Roedd y gwesteiwyr ar y rhaffau yn gynnar ac
rwy'n siŵr bod y chwaraewyr yn teimlo'n rhwystredig bod nhw heb wneud y fwyaf o
hyn.
Aeth
y Drenewydd ar y blaen ar ôl hanner awr, a dyma oedd y sgôr hanner amser, ond
oni dal i deimlo bod gan Gaernarfon ddigon i ddod yn ôl am fuddugoliaeth. Roedd
pethau'n edrych yn dda i ni ar ôl dwy gol sydyn gan Sion Bradley a 'dyn y gêm',
Darren Thomas, ond sgoriwyd y Drenewydd yn syth ar ôl gol Messi ac, yn
rhwystredig iawn, aethant yn eu blaenau i sicrhau'r pwyntiau drwy ymdrech wych
gan Alex Fletcher.
Messi oedd 'Chwaraewr y Gêm' yn erbyn y Drenewydd. |
Cafodd
Darren Thomas ei enwi'n ddyn y gêm ar y diwrnod ac yr wyf yn sicr yn cytuno ond
mae'n rhaid ei fod wedi bod yn alwad agos rhwng Messi, Sion Bradley a Ryan
Williams, ond y gwir ydi oedd y tîm i gyd yn ardderchog.
Er
gwaethaf y golled, yr oedd llawer o bethau positif o hyd i'w cael, ar ac oddi
ar y cae. Roedd gweld Nic Bould yn cael ei gem lawn gyntaf yn Uwch Gynghrair
Cymru, a chwarae'n dda, yn sicr yn un ohonyn nhw. Arwyddodd Nic i'r clwb yn ystod yr haf a, gydag Alex Ramsay
wedi'i sefydlu'n gadarn fel ein gôl-geidwad, mae ei gyfleoedd i ddisgleirio
wedi bod yn brin hyd yn hyn.
Fodd
bynnag, dydd Sadwrn oedd ei drydydd cychwyn ar gyfer y tîm cyntaf, ac o be ydw
i wedi gweld, mae'n o'n hedrych yn 'prospect' da i ni at y gorffennol. Gwelais ef yn chwarae i'r tîm o dan 19 oed yr
wythnos diwethaf ac fe wnaeth yn dda yn y gem yna hefyd felly, tra bod i
efallai wedi bod yn poeni yn y gorffennol ar yr adegau cafodd Rambo ei anafu,
nid yw hyn gymaint o boen i mi rŵan. Gyda llaw, chwaraeodd y tîm o dan 19 yn
dda iawn yn erbyn Llandudno ac mae'n ddigon bosib bod un neu ddau ohonynt wedi
gwneud argraff dda o flaen tîm rheoli'r tîm cyntaf, gydag Eards Richard a Mike
yn bresennol.
Ryan Williams |
Positif
mawr arall i'r Cofis ar y diwrnod oedd perfformiad gwych Ryan Williams. Ryan yw
dyn tawel y tîm yn fawr iawn ac, fel swyddog cyfryngau'r clwb, mae'n debyg fy
mod i mor euog â neb bod o ddim bob amser yn cael y clod y mae o'n haeddu.
Roedd
cyffro mawr ymhlith y cefnogwyr pan wnaethom gyhoeddi ei fod wedi ymuno â ni o
Wrecsam yn ystod haf 2017 ond, yn anffodus, oedd ei dymor cyntaf yn yr Oval yn
rhwystredig iawn oherwydd anaf.
Yda
ni gyd yn hapus bod Ryan wedi mwy na gwneud i fynnu am hyn tymor yma. Rwyf wedi
clywed bod Ryan ar fin torri i mewn i dîm cyntaf Wrecsam pan nath anaf ei ddal yn ôl ac rwy'n sicr yn gallu gweld
pam y byddai mor agos i'r tîm cyntaf yno. Mae'n beldroediwr go iawn ac oherwydd
hyn, gall addasu i nifer o safleuon o amgylch y cae.
Er
ei fod yn faeswr, mae Ryan wedi chwarae yn y cefn am y rhan fwyaf o dymor yma,
ac wedi bod yn rhagorol, boed hynny yn ôl ar y dde neu yn galon y llinell gefn.
Mae ei ansawdd gyda'r bêl yn amlwg a gallwch weld y canolwr ynddo pan mae'n
chwarae allan o'r cefn. Mae Ryan hefyd yn hogyn iawn ac yn llysgennad gwych i'r
clwb. Felly, ymddiheuriadau iddo am beidio bob amser â rhoi'r penawdau
cyfryngau mae'n eu haeddu, ond gobeithio y bydda i'n gallu rhoi digon o sylw
iddo yn y blynyddoedd i ddod.
Messi a Brads yn dathlu yn y Drenewydd. |
Un
o'r themau ydw i'n ail-gylchu yn ddiweddar yn y blog yw bod pêl-droed dyddiau
yma yn wahanol iawn i'r gêm roeddwn i'n ei hadnabod fel hogyn ifanc. Un '
datblygiad' hynod o hyll yn ddiweddar yw bod cefnogwyr rhai clybiau yn teimlo,
yn ôl pob golwg, bod pob collhed yn ddiwedd y byd ac yn rheswm i cwestiynnu'r
rheolwr a chwaraewyr. Diolch byth, mae cefnogwyr Tref Caernarfon yn wahanol a,
cyn belled â bod pawb yn rhoi eu holl beth i'r achos, bydd y Cofis yn cefnogi'r
rheolwr a'i dîm. Fydd hyn byth yn broblem gyda Eards a'i garfan gan eu bod bob
amser yn gadael popeth ar y cae. Yn union fel y gwnaethant yn y Drenewydd.
Cyn
symud ymlaen o gêm dydd Sadwrn, roedd yn gret o syniad gan y gwesteiwyr i
gynnig baps sglodion am ddim i bawb yn y cae, er i mi golli allan oherwydd
camgymeriad costus ar fy rhan. Ydw i ddim am fynd i ormod o fanylder ond es i
i'r 'canteen' ar gyfer fy mwyd yn hytrach na Chlwb y cefnogwyr, ac er bod y wraig
garedig yno wedi tynnu sylw at fy camgymeriad, roeddwn yn teimlo'n rhy
anghyfforddus i ganslo fy archeb, felly gorfod talu nes i! I fod yn deg, roedd
yn werth y £1.50c ac yn enwedig wrth bod y canteen yn atgoffa fi o 'gaffi Sid'
yn Only Fools and Horses!
Yr
oedd digwyddiad arall yn ymwneud â bwyd ar y diwrnod sydd yn haeddu ei grybwyll
er bod rhaid i fi fod yn bwyllog gyda'r manylion am resymau a ddaw'n amlwg. Os
fyswn i'n egluro'r manylion yn llawn, byddai'r geiriau Llywydd, sgon menyn, cyn
is-gadeirydd a phoced yn cael lle amlwg ac felly, am fod ofn cywilydd ar unrhyw
un byddai i yn gadael y stori i'ch dychymyg!
Bydd
y tîm yn wynebu'r pencampwyr, y Seintiau Newydd, ar ddydd Llun, 25ain Chwefror
ac ella bod hyn am fod yn achlysur unigryw oherwydd ydw i ddim yn siŵr os ydi’r
Cofis erioed wedi chwarae gêm Uwch Gynghrair ar nos Lun o'r blaen. In sicr fydd
o’n brawf diddorol i ni ac i'r Gynghrair. Trefnwyd y dyddiad i hwyluso cais
sgorio i ddarlledu'r gêm ar eu platfform byw ar Facebook, a defra I ddim
disgwyl amdani!
Gan ystyried bod YSN
yn glwb proffesiynol, mae am fod yn dasg anodd i'r Cofis ond mae'r hogiau wedi
bod yn gystadleuol yn ein gemau diweddar gyda nhw ac, wrth gwrs, wedi curo nhw
tymor yma ar eu tir eu hunain. Mae'r chwaraewyr wedi profi bod nhw digon da i
gystadlu ar y lefel yma ac mae un peth yn sicr, bydd Eards a'i dim yn barod am
yr her, yn enwedig o flaen dorf fawr arall yn yr Oval.